Mae meddygon yn annog cleifion i gymryd tri cham syml cyn trefnu apwyntiad i weld meddyg teulu.

Yn ôl Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu (RCGP) dylai cleifion geisio weld a ellir datrys eu pryder iechyd trwy hunan ofal; ceisio cymorth o wefannau dibynadwy; neu geisio cymorth gan fferyllydd.

“Credwn fod hyd at chwarter apwyntiadau meddygon teulu yn rhai y gellid eu hosgoi neu eu datrys mewn ffyrdd eraill,” meddai cadeirydd y RCGP, yr Athro Helen Stokes-Lampard.

“Pe bai cymryd y camau hyn yn arwain at 10% o leihad yn y niferoedd sy’n dod i weld eu meddyg, byddai’n gwneud gwahaniaeth mawr.

“Byddai’n rhoi cyfle inni ymdrin â’r rheini sydd â gwir angen ein help ar amser anodd i’r holl Wasanaeth Iechyd.”