Fe fydd mesurau diogelwch ar gyfer dathliadau’r Flwyddyn Newydd yn Llundain yn cael eu hadolygu yn sgil yr ymosodiadau brawychol eleni, meddai Scotland Yard.

Mae disgwyl i blismyn arfog, rhagor o gerbydau a chwn yr heddlu fod ar ddyletswydd wrth i gannoedd ar filoedd o bobl ymgynnull yn Llundain ar 31 Rhagfyr i wylio’r tan gwyllt.

Daw hyn yn dilyn pedwar ymosodiad brawychol difrifol yn 2017, gan gynnwys yr ymosodiad ar Balas Westminster ym mis Mawrth pan gafodd pump o bobol eu lladd, a’r ymosodiad ar Bont Llundain ym mis Mehefin pan fu farw wyth o bobl.

A bu ymosodiad difrifol ym Manceinion yn ystod cyngerdd Ariana Grande ym mis Mai pan gafodd 22 o bobl eu lladd.

Dramor, cafodd wyth o bobl eu lladd mewn ymosodiad yn Efrog Newydd ym mis Hydref a bu farw 16 o bobl mewn ymosodiadau brawychol yn Barcelona a Cambrils yn Sbaen ym mis Awst.

Er nad oes bygythiad uniongyrchol i’r dathliadau ar Nos Galan, meddai Scotland Yard, maen nhw’n annog pobl i fod yn wyliadwrus ac i fynd at swyddogion yr heddlu neu drefnwyr y digwyddiad os ydyn nhw’n gweld unrhyw beth amheus.