Mae marwolaeth anesboniadwy dynes yng Nghaerwrangon yn cael ei thrin fel un amheus gan yr heddlu.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo yn Heol Carnforth toc cyn 6.50yh nos Fercher, 27 Rhagfyr.
Roedd y ddynes, a oedd yn ei phumdegau, wedi marw yn y fan a’r lle, meddai Heddlu Gorllewin Mercia.
Nid oes unrhyw fanylion pellach am y ddynes wedi cael eu rhyddhau ond mae ei theulu wedi cael gwybod.
Dywed yr heddlu bod “ymchwiliad trylwyr” wedi cael ei lansio ac y bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal.
Maen nhw’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555111.