Mae disgwyl i rew achosi rhagor o broblemau i deithwyr ar y ffyrdd a’r meysydd awyr heddiw.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew am rannau helaeth o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar ôl i eira achosi trafferthion ar y ffyrdd ac mewn meysydd awyr ar draws y Deyrnas Unedig ddydd Mercher.

Roedd nifer o gartrefi hefyd wedi colli eu cyflenwad trydan.

Ym maes awyr Stansted, roedd adroddiadau bod tua 300 o deithwyr yn sownd yno nos Fercher wrth iddyn nhw geisio ail-fwcio tocynnau ar ol i ddwsinau o hediadau gyda Ryanair ac easyJet gael eu canslo neu eu gohirio yn gynharach yn y dydd oherwydd rhew ac eira.

Roedd swyddogion yn y maes awyr wedi darparu gwlâu a blancedi i’r rhai oedd wedi methu dychwelyd i’w cartrefi neu ddod o hyd i lety ond mae nifer o deithwyr wedi mynegi eu dicter ar wefannau cymdeithasol am y diffyg cymorth a gwybodaeth yn Stansted.

Dywed Stansted bod disgwyl i’r holl hediadau fod yn gwasanaethu yn ol yr arfer ddydd Iau ond maen nhw’n annog teithwyr i wirio eu trefniadau cyn teithio i’r maes awyr.

Mae maes awyr Luton Llundain hefyd yn annog teithwyr i gysylltu gyda’u cwmnïau hedfan cyn teithio.  Bu’n rhaid canslo tua 50 o hediadau yno ddoe.

Rhybudd melyn

Yn ol y Swyddfa Dywydd roedd y tymheredd wedi gostwng i -4.5C (24F) yn Katesbridge, Swydd Down yn oriau man fore dydd Mercher tra bod y rhan fwyaf o lefydd yn y DU tua 0C (32F).

Mae’r ddau rybudd melyn am rew mewn grym tan tua 11yb gyda gyrwyr yn cael eu rhybuddio am amodau peryglus iawn ar ffyrdd sydd heb eu graeanu, ac i gerddwyr.

Mae disgwyl iddi glirio yn y rhan fwyaf o lefydd yn ystod y dydd ond gan barhau’n oer a’r tymheredd yn cyrraedd rhwng 2C (37F) a 5C (41F).

Ond mae disgwyl i’r tymheredd ddisgyn mor isel â -10C (12F) mewn rhannau o Gymru a’r Alban dros nos.