Mae archfarchnad Tesco wedi bod yn ymddiheuro i ddwsinau o gwsmeriaid sydd wedi bod yn cwyno ar-lein fod y tyrcwn wnaethon nhw eu prynu yn ei siopau “wedi pydru”.

Fe gafodd llif Tesco ar y gwefannau cymdeithasol eu bombardio gan bobol flin oedd yn honni fod canolbwynt eu ciniawau Nadolig un ai’n anfwytadwy neu wedi gwneud rhywun yn sâl.

“Rydyn ni wedi gwerthu cannoedd o filoedd o dyrcwn o ansawdd wych y Nadolig hwn,” meddai llefarydd ar ran Tesco.

“Rydyn ni’n disgwyl i’n cynnyrch ni gyrraedd y safonau uchaf, felly fe fyddwn ni’n gobeithio mynd i’r afael ag unrhyw gwynion yn ystod y dyddiau nesaf yma.

“Fe fyddwn ni’n cysylltu’n uniongyrchol gyda phob cwsmer anfodlonm ac yn ceisio mynd at wraidd y broblem ym mhob achos.”