Mae Aelodau Seneddol Ceidwadol sydd o blaid Brexit wedi cefnogi adroddiad newydd sy’n awgrymu y dylai trigolion yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd orfod talu £10 am fisa i ddod i wledydd Prydain.

Byddai’r cynllun yn codi hyd at £150 miliwn y flwyddyn, ac fe fyddai’r arian yn cael ei ddefnyddio i atgyfnerthu ffiniau ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Cafodd yr adroddiad ei lunio gan yr Aelod Seneddol Craig Mackinlay ac mae’n cael ei gefnogi gan y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd.

Mae cynllun tebyg eisoes yn ei le yn yr Unol Daleithiau, lle mae pobol sydd am brynu fisa yn talu 14 o ddoleri, ac mae’n galluogi pobol i gael mynediad di-ben-draw i’r wlad dros gyfnod o ddwy flynedd.

 

Mae pobol sydd eisiau teithio’n cyflwyno gwybodaeth wrth archebu tocynnau fel bod y broses wirio’n cael ei chyflymu wrth iddyn nhw gyrraedd yr Unol Daleithiau.

Cynllun

Yn ôl Craig Mackinlay, byddai gofyn i deithwyr ddatgelu’r cyfeiriad lle bydden nhw’n aros.

Fe fydd hawl gan swyddogion hefyd i “ganolbwyntio ar y bobol sy’n peri’r bygythiad mwyaf”.

Ac fe fyddai’n lleihau amserau aros i deithwyr.

Mae disgwyl i bapur gwyn ar fisas gael ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd.