Mae Kate Maltby, y newyddiadurwraig sy’n honni bod cyn-Brif Ysgrifennydd Gwladol San Steffan Damian Green wedi ymddwyn yn rhywiol tuag ati, yn ystyried dwyn achos tros gyfres o negeseuon testun a gafodd eu cyhoeddi mewn papur newydd.

Cafodd y negeseuon eu cyhoeddi yn y Mail on Sunday ond mae hi’n honni eu bod nhw wedi cael eu golygu er lles Damian Green.

Mae e’n gwadu ei fod e wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

 

Mae Kate Maltby yn honni ei fod e wedi cyffwrdd â’i phen-glin mewn tafarn ac wedi anfon negeseuon awgrymog ati ar ôl i’w llun ymddangos mewn papur newydd.

Cafodd Damian Green ei ddiswyddo ar ôl camarwain Prif Weinidog Prydain, Theresa May ynghylch ymchwiliad i ddelweddau pornograffig ar ei gyfrifiadur yn 2008.

Negeseuon

Mewn negeseuon a gafodd eu cyhoeddi yn y Mail on Sunday, roedd Kate Maltby a Damian Green yn trafod cwrdd am ddiod. 

Ond dywedodd hi fod y neges wreiddiol wedi’i chyhoeddi fel nad oedd sôn am “drefnu dyddiad” a bod hynny wedi cael ei ychwanegu’n ddiweddarach ar ôl iddi gael cais i ymateb cyn cyhoeddi’r stori.

 

 

Mewn neges arall, mae’r papur yn honni bod Kate Maltby wedi cyhuddo Damian Green o “lapswchan”, ond mae hi’n gwadu ei bod hi wedi defnyddio’r gair hwnnw.

Mae hi hefyd wedi honni nad oedd y papur newydd wedi cyhoeddi ei hymateb yn llawn, ond mae hi wedi wfftio’r posbilirwydd y gallai’r wasg wynebu rhagor o reoleiddio, gan fynnu bod rhyddid y wasg yn bwysig.

‘Triciau budr’

Mae Damian Green a’i gefnogwyr wedi cael eu cyhuddo o “driciau budr” yn dilyn yr helynt.

Dywedodd y cyn-Weinidog Anna Soubry: “Prin fod cynghreiriaid Green wedi stopio i anadlu ar ôl iddo ymddiheuro am y niwed a gafodd ei achosi i Kate Maltby cyn iddyn nhw ymosod arni.

 

 

 

“Mae’n ymddangos fel pe bai’n ymgyrch o driciau budr ac nid yw’n helpu’r Llywodraeth wrth iddi ymdrin o hyd â chanlyniadau sgandal San Steffan.”

Dywedodd Prif Weinidog Prydain, Theresa May ddydd Gwener nad oedd hi’n gwybod am yr honiadau yn erbyn Damian Green – ei dirprwy – tan iddi ddarllen erthyglau ym mis Hydref.

Ond mae’r Daily Telegraph wedi dweud bod aelod o staff Downing Street wedi dweud wrthi am yr honiadau ym mis Medi 2016.