Mae cyhoeddiad llywodraeth Prydain y bydd yn newid lliw pasports o ganlyniad i Brexit wedi cael ei groesawu gan rai a’i wawdio gan eraill.

Wrth wneud y cyhoeddiad ddoe mai glas yn hytrach na choch fydd lliw pasports Prydain ar ôl 2019, dywedodd y Prif Weinidog Theresa May:

“Mae pasport y Deyrnas Unedig yn fynegiant o’n hannibyniaeth a’n sofraniaeth – ac yn symbol o’n dinasyddiaeth o genedl falch a mawr.

“Dyna pam rydym wedi cyhoeddi y bydd y pasport glas eiconig yn dychwelyd ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2019.”

Mae amrywiol Aelodau Seneddol Torïaidd wedi llawenhau gyda’r newyddion, gyda sylwadau fel “anrheg Nadolig gwych i bobl Prydain” a “symbol o’n hunaniaeth genedlaethol a’n sofraniaeth.”

‘Lol ynysig’

Fodd bynnag, cafodd y cyhoeddiad ei wawdio gan Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon.

“Lol ynysig, mewnblyg yw’r obsesiwn hwn â phasport glas,” meddai.

Tebyg oedd ymateb yr AS Torïaidd gwrth-Brexit, Anna Soubry:

“Byddwch yn barod am bartïon stryd wrth i basports glas ddychwelyd. Ddim yn siwr a fydd hyn yn gwneud iawn am yr addewid a gafodd ei dorri am £350 miliwn yr wythnos i’r Gwasanaeth Iechyd.”

Daeth i’r amlwg hefyd nad oedd unrhyw reidrwydd ar Brydain i gael pasport coch fel aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

“Nid oes unrhyw ddeddfwriaeth gan yr Undeb Ewropeaidd yn pennu lliw pasport,” meddai Guy Verhofstadt, prif gydgysylltydd Brexit Senedd Ewrop. “Gallai’r Deyrnas Unedig fod wedi cael pasport o unrhyw liw ac aros yn yr Undeb Ewropeaidd.”