Mae deg aelod o griw o ladron ar gefn beiciau moped, wedi’u carcharu am gyfanswm o 110 mlynedd wedi cyfres o ymosodiadau ar siopau ffonau symudol.

Fe dorrodd y dynion i mewn i’r siopau wedi’u harfogi â morthwylion a chyllyll, gan ddefnyddio hefyd blociau ffensio a greindars i orfodi eu ffordd i mewn.

Roedden nhw’n gwisgo helmedau a gwisgoedd tywyll wrth ladrata gwerth £1.2m o 17 o siopau.

Heddiw, fe gafwyd Courtney White, 23; Mominur Rahman, 22; Mohammed Hussain, 24; Chang Mabiala, 22; Mohammed Ali, 24; Chris Costi, 19; Bobby Kennedy, 22; Alfie Kennedy, 21; Adam Attalah, 21; a Dylan Castano Lopez, 20, yn euog o gynllwynio i ladrata ar amrywiol ddyddiadau rhwng Mai 1 a Thachwedd 27 y llynedd.

Wrth eu dedfrydu i 110 mlynedd dan glo, dywedodd y Barnwr Michael Simon yn Llys y Goron Blackfriars yn Llundain eu bod yn “ifanc o ran oed, ond hen o ran eu troseddau”.