Mae pob ehediad o faes awyr Bryste heddiw wedi’i ganslo, wedi i un awyren wyro oddi ar y lanfa.

Roedd 25 o bobol ar fwrdd yr Embraer 145 pan ddigwyddodd y ddamwain am 11.36yb heddiw, yn syth wedi iddi lanio o Frankfurt yn yr Almaen.

Yn ôl llefarydd ar ran y maes awyr, chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad, ac fe gafodd yr awyren ei thoio yn ddiogel at ei stand.

Ond, oherwydd bod y lanfa wedi’i chau, mae teithwyr ar awyrennau eraill a oedd i fod i lanio ym Mryste, wedi profi dipyn o oedi. Mae heddiw’n un o ddyddiau prysura’r flwyddyn ar gyfer teithiwyr, wrth i bobol ddod adref i dreulio’r Nadolig gyda theulu a ffrindiau.

Mae disgwyl i dros 190,000 o bobol ddefnyddio maes awyr Bryste rhwng heddiw a Ionawr 1 – cynnydd o 5% ar niferoedd y pythefnos gyfatebol yn 2016.