Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, wedi rhybuddio Rwsia bod y Deyrnas Unedig yn “barod i ymateb” i’w hymgyrchoedd seibr.

Gan ymateb i’r sylw mae Sergey Lavrov, Ysgrifennydd Tramor Rwsia, wedi dweud bod y berthynas rhwng y ddwy wlad “mewn sefyllfa wael”.

Daeth y sylwadau yn ystod cyfarfod rhwng y ddau ffigwr yng Ngwesty’r Weinyddiaeth Dramor ym Mosgow, Rwsia.

Dyma oedd ymweliad cyntaf Ysgrifennydd Tramor Prydeinig â Rwsia mewn pum mlynedd.

Ymatebodd Boris Johnson i sylw Sergey Lavrov trwy gydnabod bod “trafferthion” â’r berthynas ond ychwanegodd bod angen ceisio cydweithio ar faterion lle mae’r ddwy ochr yn gytûn.