Mae un o ffrindiau agosaf Theresa May, Damian Green, wedi cael ei orfodi i ymddiswyddo wedi iddo wneud datganiadau “camarweiniol” wedi i bornograffiaeth gael ei ganfod ar ei gyfrifiadur yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae Damian Green wedi gadael ei swydd yn Ddirprwy Brif Weinidog, gan barhau i wadu ei fod wedi lawrlwytho neu wylio deunydd pornograffig ar ei gyfrifiadur.

Fe wnaeth ymchwiliad gan Downing St ganfod bod dau ddatganiad gan Damian Green ar Dachwedd 4 ac 11, oedd yn awgrymu nad oedd yn ymwybodol bod yr heddlu wedi dod o hyd i’r deunydd yn 2008, yn “anwir ac yn gamarweiniol”.

Oherwydd hyn, fe ddaeth yr ymchwiliad at y casgliad bod Damian Green wedi torri’r cod gweinidogol.

Damian Green oedd yn arwain y trafodaethau Brexit ar ran Theresa May rhwng Cymru, Yr Alban a San Steffan.

Dyma’r trydydd gwleidydd mewn deufis i orfod gadael y Cabinet yn Llundain.