Bydd heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn derbyn £450 miliwn yn rhagor y flwyddyn nesaf – gyda threthdalwyr  yn ariannu cyfran helaeth o’r arian.

Mae disgwyl i £270 miliwn o’r swm yma ddeillio o bwerau newydd comisiynwyr heddlu a throseddu – byddan nhw’n gallu codi’r gyfran o’r dreth cyngor sydd yn cael ei gyfrannu tuag at blismona.

Bydd £130 miliwn yn dod o’r Llywodraeth ac yn cael ei gyfrannu at flaenoriaethau’r heddluoedd, a £50 miliwn arall gan y Llywodraeth i’w gyfrannu at dimau gwrth-frawychiaeth.

Mae gweinidogion hefyd wedi cyhoeddi y bydd grant canolig lluoedd heddlu Cymru a Lloegr yn cael ei ddiogelu yn ystod 2018-19.

Rhagor o arian

“Bydd trethdalwyr yn buddsoddi rhagor o arian yn yr heddluoedd oherwydd bod y gwaith sy’n cael ei wneud gan ein swyddogion yn hollbwysig,” meddai’r Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd.

“Rydym hefyd yn cydnabod bod anghenion yn newid. Ond, fy neges i luoedd yr heddlu yw bod buddsoddi rhagor yn golygu bod angen i ni ddiwygio yn gyflymach.”

Mae’r Ysgrifennydd Cartref Cysgodol, Diane Abbott, yn dadlau bod gweinidogion wedi dewis “rhoi ergyd i’r trethdalwr lleol”.