Mae pedwar o ddynion wedi’u harestio yn dilyn cyrchoedd gan yr heddlu yn Ne Swydd Efrog a Swydd Derby heddiw.
Cafodd swyddogion o Uned Ddifa Bomiau’r Fyddin eu galw yn rhan o’r cyrch ddydd Mawrth wrth i’r heddlu geisio atal cynllwyn brawychol posib.
Mae pobol o gwmpas yr eiddo yn Chesterfield wedi’u symud i rywle diogel tra bo’r ymchwiliad yn parhau.
Cafodd tri dyn, 22, 36 a 41 oed, eu harestio yn ardal Sheffield a dyn arall, 31 oed, ei arestio yn Chesterfield.
Mae’r pedwar wedi’u harestio ar amheuaeth o ymwneud â chomisiynu, paratoi neu annog gweithred frawychol.