Fe fydd Theresa May yn cynnal cyfarfod llawn o’i Chabinet heddiw i drafod sut fath o berthynas fydd gan y Deyrnas Unedig gyda’r Undeb Ewropeaidd wedi Brexit.

Ond mae prif drafodwr Brexit y Comisiwn Ewropeaidd, Michel Barnier, wedi dweud na fydd trefniadau arbennig er mwyn caniatáu i fusnesau’r Ddinas allu masnachu’n rhydd gyda’r Undeb Ewropeaidd os yw Prydain yn gadael y farchnad sengl.

Roedd Theresa May wedi gobeithio sicrhau cytundeb arbennig gyda Brwsel ynglŷn â hyn.

Dywedodd Michel Barnier bod yn rhaid i’r Deyrnas Unedig ddilyn holl reolau’r Undeb Ewropeaidd yn ystod y cyfnod trosglwyddo yn dilyn dyddiad swyddogol Brexit ym mis Mawrth 2019.

Ac er bod gan Brydain yr hawl i drafod cytundebau masnach gyda gwledydd eraill yn ystod y cyfnod trosglwyddo, ni fyddan nhw’n gallu dod i rym nes bod y cyfnod ar ben. Mae disgwyl i hynny fod yn 2021.

Mae’n debyg bod yna wahaniaeth barn rhwng gweinidogion y Cabinet hefyd gyda rhai’n dadlau bod angen torri’n rhydd o reoliadau’r Undeb Ewropeaidd a sicrhau cytundebau masnach newydd gyda gwledydd eraill y byd, tra bod eraill yn dadlau yn erbyn hynny gan ddweud bod angen parhau i gael mynediad at farchnadoedd Ewrop.