Mae angen “newid diwylliant” yn y diwydiant adeiladu er mwyn sicrhau nad yw iechyd a diogelwch yn cael ei aberthu am resymau ariannol, yn ôl adroddiad i dân Tŵr Grenfell.

Dydy rheoliadau’r diwydiant ddim yn “addas” ac mae modd i gwmnïau osgoi cydymffurfio â nhw, meddai’r fonesig Judith Hackitt yn yr adroddiad interim – sy’n rhan o’i hadolygiad.

Mae’r cyn-bennaeth iechyd a diogelwch wedi bod yn asesu rheolau’r diwydiant, yn dilyn y trychineb yn Llundain ar Fehefin 14 lle bu farw 71 o bobol.

Llwyddodd y digwyddiad i godi cwestiynau am barodrwydd cwmnïau i osod deunyddiau peryglus ar fflatiau tŵr – y gred yw bod gorchudd rhad a fflamadwy wedi’i osod ar y tŵr.

Yn ei hadroddiad fe ddywedodd Judith Hackitt ei bod wedi’i “synnu” gan waith cynnal a chadw ar rhai adeiladau, a bod rheoliadau yn aml yn ddryslyd.

“Newid diwylliant”

“Mae angen newid diwylliant ac ymddygiad yn awr, tros y sector gyfan,” meddai Judith Hackitt yn ei hadroddiad.

“Er mwyn sicrhau bod adeiladau cymhleth yn cael eu hadeiladu â’u cynnal, fel eu bod yn ddiogel a bod modd i bobol fyw ynddyn nhw am flynyddoedd.”

“Rhaid stopio’r meddylfryd o wneud pethau mor rhad ag sy’n bosib a throsglwyddo’r cyfrifoldeb tros broblemau i bobol eraill.”