Fe fydd Theresa May yn dweud wrth Aelodau Seneddol heddiw y bydd y Deyrnas Unedig (DU) yn ceisio sicrhau cytundebau masnach gyda gwledydd eraill er gwaetha’r ffaith y bydd yn gorfod cadw at reolau’r Undeb Ewropeaidd (UE) am tua dwy flynedd wedi Brexit.

Er bod y DU yn gadael y farchnad sengl fe fydd y Prif Weinidog yn dweud ei bod eisiau i’r mynediad at fasnach y gwahanol wledydd barhau fel y mae ar hyn o bryd yn ystod y cyfnod yma.

Mae canllawiau’r UE yn datgan bod yn rhaid i’r DU gadw at bolisi masnach yr undeb yn y cyfnod wedi Brexit sy’n ei hatal rhag sicrhau ei chytundeb ei hun gyda gwledydd eraill.

Ond fe fydd Theresa May yn dweud ei bod eisiau arwyddo’r cytundebau a fydd yn dod i rym ar ôl i’r cyfnod yma ddod i ben.

Mae disgwyl iddi ddiweddaru Aelodau Seneddol am y datblygiadau diweddaraf ar ôl cynhadledd ym Mrwsel lle’r oedd 27 o wledydd yr UE wedi cytuno i symud y trafodaethau ymlaen i’r cam nesaf.

Bydd Theresa May ac uwch weinidogion hefyd yn trafod cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer cytundeb masnach rhwng y DU a’r UE wedi Brexit ar ôl i Frwsel awgrymu nad oes sicrwydd y bydd y Prif Weinidog yn cael y “berthynas arbennig” mae hi ei heisiau.