Fe fydd Bradley Lowery, y cefnogwr pêl-droed chwech oed fu farw o ganser eleni, yn cael ei enwi’n enillydd Gwobr Helen Rollason yng Ngwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC eleni.

Bydd y seremoni’n cael ei chynnal yn Lerpwl heno a’i darlledu’n fyw gan y Gorfforaeth.

Bydd ei rieni, Gemma a Carl, yn derbyn y wobr er cof amdano.

Mae’r wobr yn dwyn enw’r cyflwynydd chwaraeon fu farw o ganser yn 1999.

Hanes Bradley

Cafodd Bradley ddiagnosis o fath prin o ganser – niwroblastoma – ac yntau’n 18 mis ar y pryd.

Yn ystod ei frwydr, fe ddaeth i amlygrwydd fel cefnogwr brwd o dîm pêl-droed Sunderland ac fel ffrind i’r chwaraewr Jermain Defoe.

Cafodd mwy na £700,000 ei godi y llynedd er mwyn iddo fynd i Efrog Newydd i dderbyn triniaeth, ond fe gafodd ei deulu wybod cyn iddyn nhw allu mynd bod ei ganser yn derfynol.

Yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd Jermain Defoe mai Bradley oedd ei “ffrind gorau”.

Roedd Bradley wedi cael mynd i seremoni Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn fel gwestai arbennig y llynedd, lle cafodd e’r cyfle i gwrdd â’r cyflwynydd Gary Lineker a rheolwr tîm pêl-droed Lloegr, Gareth Southgate.

Amlygrwydd

Yn ystod ei frwydr, cafodd nifer o ddigwyddiadau eu trefnu er mwyn tynnu sylw at ei salwch ac i godi arian.

Fe dderbyniodd e 250,000 o gardiau Nadolig y llynedd.

Enillodd Bradley wobr Gôl y Mis ar Match of the Day fis Rhagfyr y llynedd ar ôl cael gwahoddiad i fynd ar y cae cyn gêm Sunderland yn erbyn Chelsea a chael sgorio cic o’r smotyn.

Roedd yn fasgot tîm Everton y tymor diwethaf, wrth i’r clwb roddi £200,000 i Sefydliad Bradley Lowery, a thîm Lloegr ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Lithwania yn Wembley.

Cafodd ei enwi hefyd ar gerdyn y Grand National ym mis Ebrill.