Mae’r cynlluniau i gyflwyno llongau, awyrennau a cherbydau newydd ar gyfer y lluoedd arfog yn y fantol oherwydd bwriad y Weinyddiaeth Amddiffyn i wneud arbedion o hyd at £7 biliwn.
Dyna rybudd Pwyllgor Amddiffyn San Steffan, sy’n dweud eu bod yn “amau’n fawr” y bydd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn llwyddo i wneud yr arbedion.
Yn ôl y Swyddfa Archwilio, mae’r cynllun mewn mwy o berygl nag a fu ar unrhyw adeg arall ers 2012.
Fel rhan o’r cynllun gwerth £178 biliwn, roedd disgwyl i arian sylweddol gael ei wario dros gyfnod o ddeng mlynedd ar wyth llong newydd, cerbydau’r fyddin a naw awyren Boeing P-8A i warchod y moroedd.
Ond fe fydd rhaid arbed £7.3 biliwn ar ben y £7.1 biliwn sydd eisoes wedi’i gyhoeddi.
‘Amheus iawn’
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor seneddol, Julian Lewis: “Mae’n amheus iawn gennym y gall y Weinyddiaeth Amddiffyn gynhyrchu mwy o effeithlonrwydd oddi mewn i’w chyllideb sydd eisoes dan straen ar y raddfa angenrheidiol i weithredu ei chynllun cyfarpar.
“Bydd hyn yn arwain yn ddiau at naill ai lleihau nifer y llongau, awyrennau a cherbydau neu at ragor o oedi eto fyth wrth eu caffael.”
‘Cynnydd da’
Ond wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn fod y cynllun yn mynd yn ei flaen yn dda.
“Rydym bob amser yn ceisio cynnig y gwerth gorau am arian i’r trethdalwr, gyda’r holl arbedion wedi’u buddsoddi mewn amddiffyn.”