Bydd y Tywysog Harry yn priodi Meghan Markle ar ddydd Sadwrn, Mai 19, a hynny mewn seremoni yng Nghapel St George yng Nghastell Windsor, Berkshire.

Er bod priodasau brenhinol fel arfer yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos, mae’r cwpwl wedi penderfynu cefnu ar draddodiad trwy ei gynnal ar benwythnos.

Mai 19 oedd y dyddiad pan gafodd ail wraig Harri VIII, Anne Boleyn, ei dienyddio yn 1536 am odinebu.

Y teulu brenhinol fydd yn talu am y briodas, ond y trethdalwr fydd yn talu am gostau staff diogelwch.