Mae disgwyl i arweinyddion Ewropeaidd gymeradwyo ail gyfnod trafodaethau Brexit yn ddiweddarach heddiw (Rhagfyr 15).

Ond, mae’r achlysur yn sicr o fod yn un chwerwfelys i’r Prif Weinidog, Theresa May, gan fod y Cyngor Ewropeaidd yn annhebygol o roi’r flaenoriaeth i drafodaethau masnach.

Mae’r ddogfen fydd mwy na thebyg yn derbyn sêl bendith Ewrop ddydd Gwener, dim ond yn addo cynnig  “fframwaith” am ddêl masnach – mae’n gwneud yn glir na fydd dêl newydd tan ar ôl Brexit.

Y materion fydd yn cael eu blaenoriaethu gan Ewrop fydd, troi cytundebau’r wythnos ddiwethaf yn ‘Gytundeb Ymadael’ cyfreithiol, ac amlinellu telerau’r broses o newid graddol wedi Brexit.

Heriau

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn wynebu sawl her i’w cynlluniau Brexit – un amlwg fydd y bleidlais yr wythnos nesaf tros osod pwys cyfreithiol ar ddyddiad Brexit, Mawrth 29, 2019.

Bydd y bleidlais yma yn cael ei gynnal yn sgil pleidlais ddydd Mercher yr wythnos hon (Rhagfyr 13) tros newid i’r Mesur Ymadael. Collodd y Llywodraeth, gyda 11 Ceidwadwr yn pleidleisio yn erbyn eu plaid.