Mae trydydd unigolyn wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn gysylltiedig â thân mewn tŷ ym Manceinion wnaeth ladd pedwar o blant.

Bu farw Demi Pearson, 14; ei brawd Brandon, 8, a’i chwaer Lacie, 7; yn y tân yn Worsley ddydd Llun (Rhagfyr 11).

Bu farw pedwerydd plentyn, Lia Pearson, 4, ddydd Mercher (Rhagfyr 13).

Mae David Worrall, 25, o Worsley, yn wynebu pedwar cyhuddiad o lofruddiaeth, tri chyhuddiad o geisio llofruddio a chyhuddiad o losgi bwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd.

Bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Manceinion a Salford ar ddydd Iau (Rhagfyr 14).

Mae Zac Bolland, 23, a Courtney Brierley, 20, hefyd yn wynebu cyhuddiadau o lofruddiaeth ac mi fyddan nhw’n ymddangos gerbron Llys y Goron Manceinion ddydd Iau.