Mae llanc 15 oed wedi cyfaddef iddo achosi marwolaeth pump o bobol yn dilyn gwrthdrawiad yn Leeds fis diwethaf.

Plediodd yn euog i’r cyhuddiadau yn Llys y Goron Leeds.

Fe fu farw Ellis Thornton-Kimmitt (12), ei frawd Elliott Thornton-Kimmitt (14), Darnell Harte (15), Robbie Meerun (24) ac Anthony Armour (24) mewn car Renault Clio yn ardal Meanwood y ddinas ar Dachwedd 25.

Ar y pryd, fe gymharodd yr heddlu a fu’n rhan o’r digwyddiad yr olygfa i fod yng nghanol “lladdfa”.

Yn ystod y gwrandawiad, clywodd y llanc, a oedd yn ymddangos gerbron y llys trwy gyswllt fideo, y byddai’n cael ei ddedfrydu ar Ionawr 26.