Mae dau berson wedi cael eu cyhuddo o lofruddio yn gysylltiedig â thân mewn tŷ ym Manceinion lle bu farw tri phlentyn.
Bu farw Demi Pearson, 14; ei brawd Brandon, 8; a’i chwaer Lacie, 7; yn y tân yn Worsley ddydd Llun (Rhagfyr 11).
Mae mam y plant, Michelle Pearson, 35, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty tra bod pedwerydd plentyn, Lia, 3, yn ddifrifol wael.
Mae Zac Bolland, 23, yn wynebu tri chyhuddiad o lofruddiaeth, pedwar cyhuddiad o geisio llofruddio, a chyhuddiad o losgi bwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd.
Mae Courtney Brierley, 20, wedi’i chyhuddo o’r un troseddau. Bydd y ddau yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Salford ddydd Mercher (Rhagfyr 13).
Tân
Roedd dau fachgen 16 blwydd oed hefyd yn y tŷ, ond mi wnaethon nhw lwyddo i ddianc.
Dyw’r fam ddim wedi cael hysbysu am farwolaeth ei phlant hyd yn hyn gan ei bod hi ar dawelyddion cryf.