Mae grŵp o Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi bygwth pleidleisio yn erbyn un o brif fesurau Brexit os na fydd newidiadau’n cael eu cyflwyno.

 phleidlais tros y Mesur Ymadael yn cael ei drafod yn ddiweddarach heddiw (dydd Mercher), mae’r grŵp wedi galw am gymal a fydd yn sicrhau bod ASau yn cael pleidleisio tros ffurf derfynol dêl Brexit.

Dominic Grieve – a bleidleisiodd tros aros yn Ewrop – sydd yn arwain yr alwad, ac mae’n ddigon posib y gallai hyd at ugain AS Ceidwadol arall ochri ag ef wrth wrthwynebu’r mesur.

Gan nad oes gan y Llywodraeth fwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin, gallai unrhyw wrthryfela beri trafferth. Mae’r Ysgrifennydd Brexit, David Davis, wedi pledio ar ASau i bwyllo.

Tanseilio

Yn ogystal â thrafferthion yn San Steffan, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn wynebu heriau yn Ewrop yn dilyn sylwadau gan David Davis.

Mae’r gweinidog wedi dweud mai “datganiad o’n hamcanion” sydd wedi’i gynnig gan Brydain hyd yma tros fater ffin Iwerddon, cost ymadael a hawliau dinasyddion.

Mae Cydlynydd Brexit Brwsel, Guy Verhofstadt, wedi rhybuddio bod sylw’r gweinidog yn bygwth “tanseilio cyd-ddealltwriaeth”.