Mae graddfa chwyddiant wedi codi i 3.1% ym mis Tachwedd, o 3% ym mis Hydref, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Dyma’r lefel uchaf ers bron i chwe blynedd, ac mae’r cynnydd annisgwyl wedi gorfodi Banc Lloegr i esbonio wrth y Canghellor Philip Hammond pam fod costau byw wedi cynyddu.
Roedd Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) yn 3.1% ym mis Tachwedd gan olygu bod chwyddiant wedi codi i’w lefel uchaf ers mis Mawrth 2012.
Mae’r Llywodraeth wedi gosod targed CPI o 2%.
Roedd cynnydd mewn prisiau gemau cyfrifiadurol yn bennaf gyfrifol am y cynnydd yng ngraddfa chwyddiant, ynghyd a chynnydd mewn prisiau bwyd a phetrol.
Roedd y Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) sy’n fesur ar wahân ar gyfer chwyddiant, wedi gostwng i 3.9% fis diwethaf, o 4% ym mis Hydref.