Mae dynes o Brydain sydd wedi ei charcharu yn Iran “yn llawer mwy gobeithiol” ynglŷn â chael ei rhyddhau yn dilyn ymweliad gan Boris Johnson, yn ôl ei gŵr.

Cafodd Nazanin Zaghari-Ratcliffe ei harestio yn ystod ymweliad â’r wlad y llynedd ar gyhuddiadau o gynllwynio’n erbyn llywodraeth Tehran. Mae hi’n wynebu blynyddoedd dan glo.

Yn sgil ymweliad yr Ysgrifennydd Tramor dros y penwythnos, mae gŵr y ddynes, Richard Ratcliffe, yn dweud ei bod hi bellach yn “optimistaidd” a’i fod ef yn gobeithio y bydd hi’n dychwelyd erbyn y Nadolig.

“Dw i’n siŵr bod ymweliad yr Ysgrifennydd Tramor ag Iran wedi cryfhau ei hachos, ac wedi amlygu pwysigrwydd y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig ac Iran,” meddai Richard Ratcliffe, wrth raglen Today ar BBC Radio 4.

“Cymerwyd camau ymlaen ar sawl mater. Dw i’n siŵr y bydd hyn i gyd yn gwella’r berythnas, ac ie, mae ei bresenoldeb a’i sylw yn helpu.”

Achos llys

Roedd yna bryderon y byddai Nazanin Zaghari-Ratcliffe yn dychwelyd i’r llys ddydd Sul, wedi i Boris Johnson awgrymu bod y ddynes wedi bod yn hyfforddi newyddiadurwyr yn Iran.

Ond, cafodd yr achos ei ohirio yn dilyn yr ymweliad.