Mae’r cyflwynydd teledu Keith Chegwin wedi marw yn 60 oed ar ôl salwch hir, meddai ei deulu.

Mae’n fwyaf adnabyddus am gyflwyno’r rhaglenni teledu i blant Cheggers Plays Pop, Multi-Coloured Swap Shop a Saturday Superstore.

Bu farw yn ei gartref ar ôl dioddef o salwch ar ei ysgyfaint.

Mewn datganiad dywedodd y teulu eu bod nhw wedi “torri eu calonnau” a’i fod yn “ŵr, tad, mab, brawd, ewythr a ffrind cariadus.”

Mae’n gadael gwraig Maria, a dau o blant.