Mae arweinydd y Blaid Lafur wedi dweud bod angen atebion gan y Llywodraeth a gweithredu “ar frys” i helpu’r rhai a oroesodd y tân yn Nhwr Grenfell.

Yn ôl Jeremy Corbyn, mae’r Llywodraeth wedi esgeuluso’r trigolion gan adael nifer yn ddigartref a bod hynny wedi arwain at ddiffyg hyder yn yr ymchwiliad cyhoeddus.

Mae wedi galw ar y Prif Weinidog i weithredu ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod mwy na 100 o deuluoedd a oroesodd y tân yn wynebu treulio’r Nadolig mewn gwestai.

Dim ond 42 o deuluoedd o’r twr sydd wedi symud i gartrefi parhaol ers y tân ar 14 Mehefin, sydd yn ôl Llafur, yn “warthus.”

Mae disgwyl i’r ymchwiliad cyhoeddus i achosion y tân gynnal dau wrandawiad yr wythnos hon.

Fe fydd gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal ddydd Iau i gofio’r 71 o bobl fu farw yn y digwyddiad.

“Angen gweithredu”

Mewn datganiad dywedodd Jeremy Corbyn: “Chwe mis ers y trasiedi yn Nhwr Grenfell mae’r Llywodraeth yn methu a dysgu gwersi ond, yn bwysicach na hynny, yn esgeuluso’r goroeswyr.

“Mae’n warthus bod y mwyafrif o drigolion Grenfell yn dal heb gartrefi a bod blociau o fflatiau ar draws ein gwlad yn dal heb gael eu gwneud yn ddiogel.

“Ry’n ni angen atebion gan y Llywodraeth ac mae angen gweithredu.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth bod yr holl drigolion a oedd wedi colli eu cartrefi wedi cael cynnig cartrefi parhaol neu dros dro ac mae’r cyngor wedi dweud bod “byddin” o staff yn chwilio am gartrefi i’r trigolion.