Mae cynghorydd Llafur yn nwyrain Llundain yn destun ymchwiliad yn dilyn honiadau o lwgrwobrwyo mewn perthynas â fflatiau newydd yn ardal Canary Wharf.

Mae Cyngor Tower Hamlets wedi rhoi gwybodaeth i’r Asiantaeth Torcyfraith Genedlaethol am gais cynllunio ar gyfer y datblygiad, yn ôl y Sunday Times.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur eu bod “wedi ymroi i frwydro yn erbyn llygredd yn ei holl ffurfiau”.

Cafodd yr achos ei drosglwyddo i’r awdurdodau yn dilyn ymchwiliad annibynnol ar ran y Cyngor.

 

 

Dywedodd y Cyngor nad yw’r datblygiad wedi cael ei effeithio gan yr honiadau, a’u bod nhw wedi dilyn y gweithdrefnau priodol.