Mae fferi sy’n cludo mwy na 300 o deithwyr wedi mynd i drafferthion ger Calais.

Yn ôl adroddiadau yn Ffrainc, roedd gwyntoedd cryfion wedi amharu ar ymdrechion criw Pride of Kent i adael y porthladd, ac fe aeth yn sownd mewn tywod.

Does neb wedi cael anafiadau.

Dydy’r porthladd ddim wedi gwneud sylw hyd yn hyn.