Cafodd Chris Rea ei daro’n wael ar lwyfan yn ystod gig yn Rhydychen neithiwr.

Mae lle i gredu bod y canwr 66 oed, sydd fwyaf adnabyddus am ei gân Nadoligaidd ‘Driving Home For Christmas’, mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Yn ôl adroddiadau, fe gwympodd e’n ôl ar y llwyfan yn y New Theatre ar ganol cân tua thri chwarter awr ar ôl dechrau’r gig.

Mae e ar daith ar hyn o bryd i hyrwyddo albwm newydd.

Ar hyn o bryd, mae disgwyl iddo fe berfformio yn Bournemouth nos Fawrth, ond fydd e ddim yn perfformio yn Brighton heno.