Mae dyn 24 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi i ddynes 29 oed gael ei chanfod yn farw yn Milton Keynes.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i ardal New Bradwell am 2.40yp ddydd Iau (Rhagfyr 7).

Mae llefarydd ar ran heddlu Thames Valley yn dweud eu bod nhw’n trin y farwolaeth fel un “heb eglurhad”.