Fe fyddai mwyafrif o bleidleiswyr gwledydd Prydain o blaid cynnal refferendwm arall ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, pe bai Theresa May yn methu dod i gytundeb ar amodau Brexit.

Mae canlyniadau pôl gan BMG Research yn dangos y byddai 54% o blaid pleidleisio eto ar y cwestiwn o adael neu aros, o gymharu â 46% yn erbyn.

Fe fyddai 74% o bobol ifanc rhwng 18-24 oed yn cefnogi refferendwm arall, o gymharu â dim ond 40% o bobol dros 55 oed.

Dim ond 31% o bleidleiswyr Torïaidd fyddai o blaid mynd i’r pôl eto, o gymharu â 70% o’r rheiny sy’n fotio i’r blaid Lafur.

Fe fyddai 21% (un o bob pump) pleidleisiwr ‘Leave’ yn cefnogi refferendwm arall pe bai’r trafodaethau rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb yn methu. Fe fyddai 80% o bleidleiswyr ‘Remain’ ledled gwledydd Prydain o blaid fotio eto yn yr un sefyllfa.