Mae Theresa May a’r Undeb Ewropaidd wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi dod i gytundeb ar seiliau cychwynnol trafodaeth Brexit.

Ar ôl llanast ddechrau’r wythnos a phum diwrnod o drafod caled, ddywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ei bod yn ffyddiog y bydd gwledydd yr Undeb yn derbyn y trefniant yn eu Huwch-gynhadledd yr wythnos nesa’.

Ac fe gadarnhaodd Llywydd yr Undeb Ewropeaidd Jean-Claude Juncker ei fod yn sicr y bydd  yn bosib symud ymlaen i drafod masnach.

Roedd yna gynhadledd i’r wasg yn gynnar y bore yma i gyhoeddi’r cytundeb gydag addewid bod y problemau tros berthynas Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth wedi eu setlo.

‘Dim ffin galed’

Does dim llawer o fanylion am y cytuneb yn y gynhadledd ond fe roddodd Theresa May addewid na fyddai yna “ffin galed” rhwng y ddwy ran o Iwerddon a bod yna ymrwymiad i gynnal cytundeb heddwch Belffast.

Ond ddyweodd hi ddim yn union sut fath o ffin fyddai yna – mae rhagor o fanylion mewn dogfen sy’n cael ei chyhoeddi’r bore yma.

Ar yr un pryd, roedd yn addo cynnal “cyfansoddiad ac undod” y Deyrnas Unedig, sy’n swnio fel addewid i beidio â chael ffin ar hyd Môr Iwerddon chwaith.

Unwaith eto, doedd dim manylion ond fe ddylai olygu na fydd gwahaniaeth yn y trefniadau rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y Deyrnas Unedig.

Y DUP yn derbyn

Ffin neu ddiffyg ffin rhwng dwy ran Iwerddon broblem oedd wedi chwalu cytundeb posib ddechrau’r wythnos ac roedd disgwyl i arweinydd plaid unolaethol y DUP wneud datganiad yn fuan wedyn – arwydd eu bod nhwthau wedi derbyn y cytundeb.

Un addewid allweddol arall oedd y byddai hawliau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yng ngwledydd Prydain yn cael eu cynnwys yng nghyfraith y Deyrnas Unedig – gan osgoi’r angen i droi at y llysoedd Ewropeaidd, un o gas-bethau’r Brexitwyr.