Mae Cymro a fu’n arweinydd ar y Blaid Lafur, yn galw am “ymgyrch fawr” i fynd i’r afael â phrinder tai yng ngwledydd Prydain, a hynny trwy godi tai dros-dro tebyg i’r rhai godwyd wedi’r Ail Ryfel Byd.

Mae Neil Kinnock yn dweud ei fod ef ei hun wedi’i fagu mewn “ty pre-fab cyfforddus a fforddiadwy”, ac mae’n awgrymu y dylid codi tai tebyg heddiw er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg tai ar frys.

“Mae angen codi tai dros-dro, a gwneud hynny ar raddfa fawr,” meddai’r Arglwydd Kinnock mewn dadl yn Nhy’r Arglwyddi.

“Fel rhywun gafodd ei fagu mewn pre-fab cyfforddus a fforddiadwy, ga’ i awgrymu bod honno’n ffordd effeithiol a chyflym o fynd i’r afael â’r broblem sylfaenol hon ar ddechrau’r 21ain ganrif.”

Mewn ymateb, mae Nick Bourne, gweinidog cymunedau a llywodraeth leol San Steffan, wedi dweud fod y blaid Geidwadol yn bwriadu “y rhaglen fwya’ uchelgeisiol mewn cenhedlaeth” ar gyfer adeiladu cartrefi newydd.

Yn ôl yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth, mae llywodraeth Prydain yn bwriadu codi 300,000 o dai newydd erbyn canol y 2020au.