Mae aelod o heddlu Iwerddon a dyn arall wedi’u saethu yn ninas Dulyn.

Fe ddigwyddodd tra’r oedd tai yn ardal Ballymun yng ngogledd y ddinas yn cael eu chwilio yn ystod oriau mân ddydd Iau (Rhagfyr 7).

Fe dderbyniodd y garda a’r dyn driniaeth feddygol yn y fan a’r lle, cyn cael eu cludo i’r ysbyty.

Dydi anafiadau’r un o’r ddau yn bygwth eu bywydau.