Mae David Davis wedi cyfaddef nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cynnal asesiadau o effaith posib Brexit ar ddiwydiannau gwledydd Prydain.

Mae’r Ysgrifennydd Brexit yn honni nad yw’n “ffan o fodelau economaidd” ac yn dadlau eu bod yn aml yn “anghywir” a methu darparu rhagolwg cywir.

“Dydych chi ddim angen asesiad ffurfiol er mwyn deall bod yna rhwystr rheoleiddio rhwng eich cynhyrchwyr a rhyw farchnad – bydd [Brexit yn cael] effaith,” meddai.

Er hynny, mae’r gweinidog wedi dweud y bydd swyddogion “ar ryw adeg” yn ystod ail gyfnod y trafodaethau â Brwsel, yn ystyried goblygiadau Brexit.

“Gwrth-ddweud”

Dywedodd David Davis wrth bwyllgor yn Rhagfyr 2016, fod ei adran “wrthi’n cynnal tua 57 o asesiadau” ar agweddau gwahanol o’r economi.

Mae Aelodau Seneddol wedi beirniadu’r gweinidog yn sgil y cyfaddefiad, gyda Joanna Cherry o’r SNP yn dadlau bod “hyn yn gwrth-ddweud yr hyn y dywedodd … wrth bwyllgorau Tŷ’r Cyffredin yn y gorffennol”.