Mae Christine Keeler, a ddaeth i amlygrwydd yn sgil ei rhan yn helynt Profumo yn 1963, wedi marw.

Fe arweiniodd yr helynt at gwymp Llywodraeth Geidwadol Prydain y flwyddyn ganlynol, wrth i hanesion am ryw ac ysbïo ddod i’r golwg, ac fe fu’n rhaid i’r Ysgrifennydd Rhyfel, John Profumo ymddiswyddo a gadael y Senedd.

Roedd hi’n cael perthynas â’r gwleidydd a gydag ysbïwr Sofietaidd, ac fe fu’n rhaid i John Profumo gyfaddef yn ddiweddarach ei fod wedi dweud celwydd wrth Aelodau Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin.

Cafodd Christine Keeler ei geni yn 1942, ac mi adawodd yr ysgol a’i chartref yn 15 oed i fynd yn ddawnswraig mewn clwb yn Soho, gan ennill oddeutu £8 yr wythnos yn yr ardal sy’n cael ei chysylltu’n bennaf â’r diwydiant rhyw.

Roedd hi’n troi mewn cylchoedd aristocrataidd yn Llundain, lle gwnaeth hi gyfarfod â nifer o wleidyddion adnabyddus mewn partïon gwyllt.

John Profumo

Fe fu’n rhaid i John Profumo wadu yn Nhŷ’r Cyffredin ei fod e mewn perthynas â Christine Keeler pan aeth hi ar goll. Roedd yn bygwth y gyfraith ar unrhyw un oedd yn gwneud honiadau.

Ond fe ddywedodd ei fod ef a’i wraig wedi cyfarfod â hi “nifer o weithiau” mewn fflat yn Llundain.

Fe wadodd fod ganddo fe unrhyw ran yn ei diflaniad yn dilyn yr helynt, ac roedd hi’n ymddangos fel pe bai gwleidyddion yn barod i’w gredu ar hynny.

Ond fe barhaodd yr honiadau mewn papurau newydd, gyda rhai yn honni bod Christine Keeler wedi cael ei hanfon i Sbaen er mwyn osgoi cael ei holi am yr helynt ac er mwyn gwarchod buddiannau gwleidyddion.

Fe ymddiswyddodd John Profumo yn 1963 ar ôl cyfaddef iddo ddweud celwydd am y cyfan.

Cafodd Christine Keeler ei charcharu y flwyddyn honno ar ôl cyfaddef iddi ddweud celwydd a chynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Ar ddiwedd ei hoes, roedd hi’n byw yn Swydd Essex ac yn Chelsea. Fe fu’n briod ddwywaith ac roedd ganddi ddau fab.