Mae cwmni Domino’s Pizza yn annog llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi gwleidyddiaeth o’r neilltu er mwyn llunio polisi mewnfudo wedi Brexit a fydd yn gwneud bywyd yn haws i fusnesau.

Mae Simon Wallis, prif weithredwr y grwp, yn dweud fod hanner y rheolwyr sy’n cael eu cyflogi ganddo yn hanu o wledydd fel Estonia, Portwgal a Romania.

Ond mae’n poeni y gallai cynlluniau’r blaid Geidwadol i dorri cysylltiad gwledydd Prydain a’r farchnad sengl, yn gwneud drwg i’w fusnes.

“Nid yn unig y mae pobol gwledydd Prydain wedi troi at fewnfudwyr i wneud eu coffi, i adeiladu eu ceginau ac i ofalu am eu henoed, ond maen nhw hefyd yn troi atyn nhw i roi arweiniad,” meddai Simon Wallis.

“Mae angen i ni ystyried o ddifri’ sut y bydd ein heconomi yn dod o hyd i arweinyddion tim er mwyn gwneud yn siwr fod yr arian yn dod i mewn, er mwyn cadw’r olwynion i droi.”

Mae cwmni Domino’s Pizza yn bwriadu agor 600 o siopau newydd yn ystod y blynyddoedd nesa’ – a bydd angen 21,000 o aelodau newydd o staff er mwyn gwireddu hynny.

Mae hefyd yn bwriadu recriwtio 5,000 o staff ychwanegol dros gyfnod y Nadolig eleni, er mwyn partoi a gweini tua naw miliwn o bitsas i gwsmeriaid.