Mae naw cynllwyn brawychol wedi’u hatal dros y flwyddyn ddiwethaf yn y Deyrnas Unedig, yn ôl Cyfarwyddwr MI5.

Wrth gyflwyno tystiolaeth i’r Prif Weinidog ac aelodau eraill y Cabinet yn San Steffan heddiw mae Andrew Parker, cyfarwyddwr MI5, wedi rhybuddio fod y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio i annog ymosodiadau yn y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt.

Mae’n ychwanegu nad yw gorchfygu’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria ac Irac yn golygu nad yw’r bygythiad yn lleihau ym Mhrydain.

Pwysau ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae llefarydd ar ran y Prif Weinidog wedi gwrthod datgelu manylion yr ymosodiadau gafodd eu rhwystro, ond mae’n cadarnhau fod cyflwyniad Cyfarwyddwr MI5 yn cyfeirio at frawychiaeth sy’n gysylltiedig ag Islamiaeth.

Mi ddywedodd llefarydd ar ran yr heddlu yn gynharach eleni eu bod wedi rhwystro 13 o ymosodiadau ers 2013, ond mae graddfa cyflymdra’r ymosodiadau wedi codi’n “sylweddol” yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl Amber Rudd, Ysgrifennydd Cartref Llywodraeth Prydain.

Mae’n ychwanegu bod y llywodraeth yn rhoi pwysau ar gwmnïau’r cyfryngau cymdeithasol i waredu â deunydd brawychol oddi ar eu platfformau.

Roedd MI5 hefyd wedi bod yn ymchwilio i’r brawychwr Khalid Masood, a oedd yn gyfrifol am drefnu’r ymosodiad ar London Bridge, yn ogystal â Salman Abedi a oedd yn gyfrifol am ymosodiad bom Manceinion.

Roedd adolygiad annibynnol  wedi dangos y gallai’r ymosodiad ar arena Manceinion ym mis Mai fod wedi’i atal a bod Salman Abedi wedi bod “o ddiddordeb” i’r awdurdodau cyn hynny.