Fe fydd pris tocynnau trên yn codi 3.4% ym mis Ionawr – y cynnydd mwyaf ers pum mlynedd.
Fe fydd pris tocynnau ar draws gwledydd Prydain ar gyfartaledd yn codi 3.4% ar 2 Ionawr, meddai corff y diwydiant, y Rail Delivery Group (RDG).
Dyma’r cynnydd mwyaf ers 2013 pan gododd prisiau 3.9%.
Mae’r corff sy’n cynrychioli teithwyr, Transport Focus, wedi beirniadu’r cynnydd yn ystod cyfnod pan mae cyflogau teithwyr un ai yn aros yn eu hunfan neu’n gostwng.
Dyma’r cynnydd sydd wedi bod mewn prisiau tocynnau trên ers 2013:
Ionawr 2013 – 3.9%
Ionawr 2014 – 2.8%
Ionawr 2015 – 2.2%
Ionawr 2016 – 1.1%
Ionawr 2017 – 2.3%
Ionawr 2018 – 3.4%