Mae plaid y DUP wedi dweud nad ydyn nhw am weld unrhyw gytundeb fydd yn “gwahanu” Gogledd Iwerddon oddi wrth weddill y Deyrnas Unedig.

Daw hyn ymysg adroddiadau fod yr Undeb Ewropeaidd yn agos at ddod i gytundeb â Phrydain ar drefniadau arbennig am ‘ffin feddal’ rhwng Iwerddon â Gogledd Iwerddon – mater a allai symud trafodaethau Brexit yn eu blaen.

Er hyn, does dim cadarnhad hyd yn hyn beth yn union fydd y cytundeb o ran y ffin honno.

Ond yn ôl Arlene Foster, arweinydd y DUP sy’n cefnogi’r llywodraeth geidwadol yn San Steffan, “mae’n rhaid i Ogledd Iwerddon adael yr Undeb Ewropeaidd ar yr un telerau â gweddill y Deyrnas Unedig.”

Mae’n ychwanegu na fydd yn derbyn ymwahaniad fydd yn gwahanu Gogledd Iwerddon “yn economaidd neu’n wleidyddol” oddi wrth weddill y Deyrnas Unedig.

Daw hyn yn dilyn cyfarfod ym Mrwsel heddiw rhwng Theresa May a Jean Claude-Juncker, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, a Donald Tusk, Llywydd y Cyngor Ewropeaidd.