Mae’n ymddangos bod yr Undeb Ewropeaidd (UE) a Phrydain, gam yn nes at gytuno ar faterion sydd yn allweddol o ran trafodaethau Brexit.

Yn ôl un adroddiad, mae llywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk wedi dweud bod y ddwy ochr yn “nesáu” at gyflawni “cynnydd digonol”.

Os fydd Ewrop yn fodlon â’r cynnydd sydd wedi bod tros faterion gan gynnwys ffin Iwerddon, a thelerau gadael yr UE, mae’n bosib bydd y trafodaethau yn symud at eu cam nesaf.

Daw sylw’r llywydd yn dilyn cyfarfod rhwng llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Jean-Claude Juncker, â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May.

Bydd Donald Tusk hefyd yn cwrdd â Theresa May ddydd Llun (Rhagfyr 4). Daw ymweliad y Prif Weinidog ar ddyddiad terfyn – cafodd ei osod gan Donald Tusk – i gyflawni “cynnydd digonol”.