Mae Comisiynydd yr Heddlu Metropolitan, Cressida Dick, wedi mynnu na ddylai cyn-swyddogion fod wedi gwneud sylwadau cyhoeddus ynglŷn â honiadau am ddeunydd pornograffig ar gyfrifiadur Seneddol, a oedd yn perthyn i’r Dirprwy Brif Weinidog Damian Green.

Mae Cressida Dick yn mynnu bod dyletswydd gan swyddogion i gadw gwybodaeth bersonol neu sensitif yn gyfrinachol hyd yn oed ar ôl gadael eu swyddi.

Mae Damian Green, sy’n rhan o ymchwiliad gan Swyddfa’r Cabinet, yn mynnu nad oedd wedi lawrlwytho na gwylio pornograffi ar y cyfrifiadur.

Dywedodd Cressida Dick y byddai adran safonau proffesiynol yr heddlu yn cynnal adolygiad i’r digwyddiad  “mewn perthynas a’r modd mae’r wybodaeth wedi cael ei thrin ac os oes unrhyw droseddau’n cael eu datgelu, fe fyddwn ni’n ymchwilio iddyn nhw.”

Fe awgrymodd hefyd y gallai arwain at erlyn y swyddogion os oes troseddau wedi cael eu cyflawni.

Fe honnodd y cyn-dditectif, Neil Lewis, wrth y BBC wythnos ddiwethaf ei fod wedi’i synnu cymaint o ddeunydd pornograffig oedd ar gyfrifiadur Damian Green ac nad oedd “unrhyw amheuaeth” mai’r AS Ceidwadol oedd wedi chwilio am y deunydd.

Roedd hynny’n adlewyrchu honiadau a wnaed gan y cyn-ddirprwy gomisiynydd Bob Quick fis diwethaf am ddeunydd y cafwyd hyd iddo ar gyfrifiadur Damian Green yn ystod cyrch ar ei swyddfa yn y Senedd yn 2008.