Mae symbol i wahaniaethu erthyglau sydd yn cydymffurfio â safonau rhag “newyddion ffug”, wedi cael ei lansio gan gorff annibynnol.

Corff Annibynnol Safonau’r Wasg (Ipso) sydd y tu ôl i’r symbol, a bydd modd i unrhyw un o’u haelodau – boed nhw’n bapur newydd neu wefan – ei arddangos.

Yn ôl Ipso mae’r symbol yn ddefnyddiol yn ystod cyfnod pan mae “ffydd y cyhoedd mewn newyddiaduraeth wedi cael ei danseilio oherwydd ‘newyddion ffug’.”

“Dw i’n credu’n gryf mai un o’r ffyrdd o sicrhau bod [y diwydiant papur newydd a chylchgronau] yn ffynnu, yw trwy ymrwymo i reoliadau effeithlon,” meddai Prif Weithredwr Ipso, Matt Tee.

“Mae hynna’n golygu Ipso, a dyna pam dw i’n falch y bydd cynifer o’n haelod-gyhoeddiadau yn arddangos yr arwydd ar eu tudalennau â balchder.”

Cyrff rheoleiddio

Corff gwirfoddol ac annibynnol yw Ipso, a gafodd ei lansio yn 2014 yn sgil diddymiad Comisiwn Cwynion y Wasg (PCC).

Impress yw’r corff rheoleiddio sy’n cael ei gydnabod yn swyddogol yn y Deyrnas Unedig. Mae’r corff hwn wedi wynebu beirniadaeth am ei dibyniaeth ar gyfraniadau’r mogwl busnes, Max Mosley.