Mae disgwyl i Theresa May gwrdd ag arweinwyr amlwg yr Undeb Ewropeaidd (UE) heddiw ar gyfer trafodaethau a allai benderfynu a fydd hi’n gallu sicrhau cytundeb Brexit.

Fe fydd y Prif Weinidog yn cwrdd â llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Jean-Claude Juncker, a Donald Tusk, llywydd y Cyngor Ewropeaidd ym Mrwsel.

Daw’r cyfarfod ar ôl i Donald Tusk osod amser terfyn ar Theresa May i wneud cynnig gwell ynglŷn â’r telerau i adael yr UE.

Heb hynny, mae Donald Tusk wedi dweud na fydd yn gallu argymell bod arweinwyr yr UE yn rhoi sêl bendith i ail ran y trafodaethau yn eu cynhadledd ar 14 a 15 Rhagfyr. Mae’r rheiny’n cynnwys trafodaethau am gytundeb masnach rydd.

Serch hynny, mae  rhai Ceidwadwyr amlwg yn annog Theresa May i adael y bwrdd trafod yn gyfan gwbl os yw arweinwyr yr UE yn gwrthod symud at ail ran y trafodaethau.