Mae cyn-arweinydd UKIP, Nigel Farage wedi cael ei gyhuddo o ragrith ar ôl dweud y byddai’n fodlon derbyn ei bensiwn gan yr Undeb Ewropeaidd.
Fel Aelod Seneddol Ewropeaidd, fe fydd e’n derbyn pensiwn blynyddol o £73,000 ymhen deng mlynedd pan fydd yn 63 oed, yn ôl y Sunday Times.
Fe allai’r pensiwn gael ei ariannu’n rhannol gan ffi “ysgariad Brexit” Prydain pe bai yna gytundeb yn y pen draw.
Wrth ateb a fyddai’n fodlon derbyn y pensiwn, dywedodd Nigel Farage: “Wrth gwrs y byddwn i’n ei gymryd e.
“Dw i wedi dweud hynny ers y diwrnod cyntaf. Pam ddylai fy nheulu ac eraill ddioddef ymhellach.”
‘Dim rhagrith’
Dywedodd llefarydd Brexit y Democratiaid Rhyddfrydol, Tom Brake: “Mae Nigel Farage yn rhagrithiwr digywilydd.
“Mae e’n cicio yn erbyn pot mêl bondigrybwyll yr Undeb Ewropeaidd, ond mae e’n hapus i dderbyn yr arian pan fydd yn ei siwtio fe.
“Synnwn i ddim pe bai e hefyd yn cefnogi bil ysgariad Brexit o £50 biliwn sy’n cynnwys yr arian i dalu am ei bensiwn gan yr Undeb Ewropeaidd.”
Ond fe ddywedodd Nigel Farage wrth ymateb nad oedd yn disgwyl derbyn ei bensiwn yn y pen draw, ac nad yw’n rhagrithiol.
“Dw i newydd bleidleisio o blaid cael gwared ar fy swydd. Fi oedd y twrci a bleidleisiodd dros y Nadolig. Sut mae hynny’n rhagrithiol?”