Mae’r heddlu yn Swydd Wiltshire wedi dod o hyd i 11 o bobol yng nghefn lori.

Cawson nhw eu galw i’r A303 ger Warminster toc ar ôl 2.15 brynhawn ddoe.

Roedd aelod o’r cyhoedd wedi clywed pobol yn curo ar ochr y lori.

Roedd tri o blant ymhlith y rhai a gafodd eu darganfod gan yr heddlu.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n cydweithio â’r Swyddfa Gartref fel rhan o’u hymchwiliad.