Mae miloedd o brofion gyrru wedi cael eu canslo o ganlyniad i streic gan aelodau undeb y PCS yr wythnos nesaf.

Fe fu anghydfod ynghylch y prawf newydd sy’n cael ei gyflwyno ddydd Llun, ac fe fydd y streic yn para o ddydd Llun i ddydd Mercher.

Roedd Ysgrifennydd Cyffredinol y PCS, Mark Serwotka wedi bod yn galw ar Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, Chris Grayling i ymyrryd yn y gobaith o atal y streic, ond fe wrthododd.

Dywedodd Mark Serwotka fod yr undeb yn “cydymdeimlo” ag ymgeiswyr ond mai Llywodraeth Prydain a’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau sydd ar fai.

“Mae ymateb munud olaf, cwbl annigonol i fi mor siomedig, ac yn methu â mynd i’r afael â’r hyn sydd wedi achosi’r anghydfod hwn.”

Materion heb eu datrys

Dywedodd fod rhai materion heb eu datrys ers 2015, a bod disgwyl i arholwyr weithio mwy o oriau heb ragor o gyflog oherwydd y profion newydd.

Dywedodd Chris Grayling mewn llythyr y gellid parhau i drafod pe bai’r undeb yn penderfynu peidio â chynnal y streic.

Ond roedd 84% o blaid gweithredu’n ddiwydiannol – a 70% o aelodau’r undeb wedi pleidleisio.